Mae’n ymddangos bod nifer o Geidwadwyr blaenllaw yn paratoi ar gyfer ras bosib i olynu Theresa May yn arweinydd y blaid a phrif weinidog.

Mae adroddiadau bod cyfnod y prif weinidog wrth y llyw yn dirwyn i ben yn dilyn helynt Brexit, a bod nifer o bobol yn barod i gyflwyno’u henwau.

Mae Liz Truss, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, eisoes yn galw am “ail-foderneiddio” y blaid, gan nodi y byddai hi’n torri trethi busnes a’r dreth stamp i brynwyr tai ifainc.

“Weithiau gall gwleidyddiaeth fod mewn perygl o fod yn rheolaethol,” meddai mewn cyfweliad â’r papurau Sul.

“Mae angen i’r Blaid Geidwadol ail-foderneiddio. Rhaid i ni fod yn optimistaidd ac yn uchelgeisiol.

“Mae angen i ni gymryd rhan ym mrwydr y syniadau, dydyn ni ddim wedi bod yn gwneud hynny.”

Ymgeiswyr posib eraill

Mae lle i gredu y bydd Michael Gove, Jeremy Hunt, Amber Rudd, Sajid Javid ac Andrea Leadsom hefyd yn cyflwyno’u henwau i fod yn arweinydd.

Ac mae posibilrwydd y gallai Boris Johnson a Dominic Raab ychwanegu eu henwau at y rhestr honno.

Mae Dominic Raab yn dweud mewn erthygl yn y Sunday Telegraph y byddai’n canolbwyntio ar geisio lleihau troseddau â chyllyll.

Ar hyn o bryd, dydy hi ddim yn glir a fyddai Justine Greening yn cyflwyno’i henw hithau.