Mae’n bosib y bydd angen llywodraeth glymblaid yn San Steffan er mwyn datrys helynt Brexit, yn ôl cyn-weinidog Ceidwadol.

Collodd Theresa May drydedd pleidlais ar ei chynllun Brexit ddoe (dydd Gwener, Mawrth 29), ac mae Nicky Morgan yn rhybuddio mai clymblaid drawsbleidiol, o bosib, yw’r unig ateb erbyn hyn.

Mae disgwyl ail rownd o bleidleisiau ddydd Llun (Ebrill 1), wrth i nifer o unigolion gyflwyno cynlluniau amgen wrth i amser ddechrau dirwyn i ben yn y ras i sicrhau cytundeb ar ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Theresa May yn benderfynol o gyflwyno’i chynllun am y pedwerydd tro.

“Pe bai’r Llywodraeth yn gwrthod a bod Theresa May yn teimlo na allai hi gyflwyno’r hyn y mae’r Senedd wedi’i nodi fel ffordd o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, yna rwy’n credu y byddai angen i ni feddwl yn ofalus a fyddai clymblaid drawsbleidiol, criw o bobol, beth bynnag, yn gallu gwneud hynny er mwyn sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus,” meddai Nicky Morgan wrth Radio 4.

“Fe all fod, pe baech chi’n gorffen gyda dull trawsbleidiol o ddod o hyd i fwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin, fod angen dull trawsbleidiol o’i gyflwyno.

“Fe fu cyfnodau yn ein hanes pan gawsom lywodraethau undod neu glymblaid am fater penodol iawn.”

Llafur yn cefnogi’r alwad

Mae sylwadau Nicky Morgan wedi’u hategu gan Tom Watson, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur.

“Mae’n well gen i lywodraethau Llafur ac rwy’n gobeithio nad ydyn ni byth yn cyrraedd pwynt lle mae ein heconomi neu ein diogelwch yn wynebu’r fath berygl lle cawn ni lywodraeth undod,” meddai wrth gylchgrawn Prospect.

“Ond os oes angen, yna rhaid i ni wneud yr hyn sy’n iawn.”

Ond mae eraill, gan gynnwys aelodau seneddol Llafur a Cheidwadol yn gwrthod yr awgrym.

Gohirio Brexit yn achosi helynt

Yn y cyfamser, mae awgrym Theresa May y bydd angen gohirio Brexit wedi ennyn dicter aelodau seneddol sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r prif weinidog yn rhybuddio na fydd San Steffan yn rhoi rhwydd hynt i Brydain adael heb gytundeb ar Ebrill 12.

Pe bai estyniad y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw, byddai’n rhaid i wledydd Prydain ymrwymo i’r etholiadau Ewropeaidd nesaf.

Yn ôl adroddiadau, mae 170 o aelodau seneddol Ceidwadol wedi ysgrifennu ati’n mynnu bod rhaid i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd dros y misoedd nesaf heb orfod cymryd rhan yn yr etholiadau.

Mae lle i gredu bod deg aelod o’r Cabinet wedi llofnodi’r llythyr, gan gynnwys Jeremy Hunt a Sajid Javid.