Fe fydd Theresa May yn brwydro i gael cefnogaeth Aelodau Seneddol i’w Chytundeb Ymadael heddiw (dydd Gwener, Mawrth 29) ar y diwrnod yr oedd disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Prif Weinidog wedi rhannu ochr gyfreithiol y cytundeb Brexit o’r berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod Aelodau Seneddol yn cael pleidleisio ar y mater heddiw.

Ond mae Theresa May yn wynebu brwydr wrth i’r DUP ymuno ag arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, a dweud y byddan nhw’n pleidleisio yn erbyn y cytundeb.

Mae ei phenderfyniad i gyflwyno’r Cytundeb Ymadael gerbron Tŷ’r Cyffredin yn golygu nad yw’n ymgais i gynnal trydedd bleidlais ar gytundeb Brexit y Llywodraeth ac yn unol â rheolau Llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow.

O dan amodau’r cytundeb gyda Brwsel, os yw’n cael ei gymeradwyo gan Aelodau Seneddol ddydd Gwener fe fyddai’r bleidlais yn golygu bod gwledydd Prydain yn cael gohirio dyddiad Brexit hyd at Mai 22.

Os yw Aelodau Seneddol yn gwrthod y cytundeb fe fydd gan wledydd Prydain hyd at Ebrill 12 i ofyn am estyniad arall i’r trafodaethau Brexit.