Mae dyn busnes wedi pledio’n euog i dwyllo Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd er mwyn derbyn swm o £4.7m.

Roedd Anthony Smith, 72, wedi derbyn miliynau o bunnau trwy gyfrwng grantiau er mwyn datblygu bwydydd pysgod amgen ar ôl addo creu hyd at 120 o swyddi mewn ardaloedd yn y de a’r gorllewin.

Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach ei fod wedi camddefnyddio’r arian wrth redeg y busnes ac ond wedi creu saith swydd newydd.

Twyll masnachol

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y dyn busnes wedi “lladrata’r buddsoddiad ar draul y gymuned leol” ar ôl derbyn grantiau ar gyfer ei dri chwmni, sef Dragon Research, Dragon Feeds a Dragon Baits.

Cafodd yr arian grant ei gadarnhau yn 2006 er mwyn helpu datblygu canolfan i brosesi mwydod a llynnoedd i’w magu yn ardaloedd Port Talbot a Phen Tywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd Anthony Smith wedi methu â chyflawni ei addewidion ac wedi gwario’r arian yn amhriodol, gyda pheth ohono’n cael ei ddefnyddio i brynu offer nad oedd yn rhan o’r cais gwreiddiol.

Mae’r dyn busnes o Bort Talbot wedi pledio’n euog i dri achos o dwyll masnachol.

Mae Colin Mair, 68, a fu’n cynorthwyo Anthony Smith i gynnal Dragon Research, hefyd wedi pledio’n euog i un achos o dwyll masnachol, tra bo Keith Peters, 72, cyn-gyfrifydd siartredig, wedi cyfaddef i ddau achos o gyfrifyddu ffug.

Bydd y tri yn cael eu dedfrydu ar Fai 10.