Bydd aelodau seneddol Ceidwadol yn pleidlais rydd ar Brexit heno (nos Fercher, Mawrth 27), wrth i Theresa May geisio osgoi ymddiswyddiadau.

Bydd aelodau seneddol yn pleidleisio ar nifer o opsiynau posib er mwyn symud y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn ei blaen.

Ond bydd prif weinidog Prydain a’i Chabinet yn ymatal yn ystod y gyfres o bleidleisiau nad ydyn nhw’n rhai allweddol.

Cafodd hi gyngor i beidio â gorchymyn ei chydweithwyr i’w chefnogi gan y gallai hi wynebu tros ddwsin o ymddiswyddiadau.

Dewis, dewis… 

Ymhlith yr opsiynau dan ystyriaeth mae gadael heb gytundeb, cynnal ail refferendwm, aros yn yr undeb tollau a diddymu Erthygl 50.

Mae’r Blaid Lafur, yn y cyfamser, wedi derbyn gorchymyn i gefnogi gwelliant Margaret Beckett, sy’n nodi bod rhaid cynnal refferendwm ar unrhyw gynllun Brexit sy’n cael ei gyflwyno, a gwelliant arall sy’n cyflwyno cynllun Brexit o’r newydd.

Maen nhw hefyd yn cael eu hannog gan Jeremy Corbyn i gefnogi gwelliant i aros yn y farchnad sengl a dod i gytundeb ynghylch yr undeb tollau.

Mae wyth gwelliant wedi’u derbyn gan y Llefarydd John Bercow, ar ôl i 16 o welliannau gael eu cyflwyno.

Gogledd Iwerddon 

Cafodd gwelliannau ynghylch ffiniau Iwerddon a diddymu Erthygl 50 yn awtomatig pe na bai cytundeb eu gwrthod.

Mae Theresa May eisoes yn dweud y bydd hi’n diystyru canlyniadau’r bleidlais heno, ac yn parhau i geisio consensws ar y ffordd ymlaen pan fydd trafodaethau’n parhau yr wythnos nesaf.

Pe bai’r Ceidwadwyr yn cefnogi ei chynllun, mae’n debygol y byddan nhw hefyd yn galw arni i ymddiswyddo.

John Bercow

Mae John Bercow yn gwrthod cynnal trydedd pleidlais ar gynllun Theresa May oni bai bod newidiadau sylweddol yn cael eu cyflwyno, ond mae Steve Barclay, yr Ysgrifennydd Brexit, yn bwriadu galw am bleidlais ddydd Gwener (Mawrth 29).

Ar hyn o bryd, mae Ewrop yn galw am ddatrysiad ar y cynllun presennol erbyn Ebrill 12, neu Fai 22 fan bellaf os oes modd trafod cynllun newydd.