Mae cyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage, wedi disgrifio polisi Brexit fel “un o’r penodau tristaf yn hanes y genedl Brydeinig” wrth iddo ail-ymuno â thaith gerdded sy’n anelu am Lundain.

Mae wedi gwneud ei sylwadau ar ddechrau’r cymal olaf y ‘March to Leave’, a ddechreuodd wythnos yn ôl yn Sunderland ac sy’n bwriadu taro Llundain ar ddyddiad gwreiddiol ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd, Mawrth 29.

“Mae’r hyn sydd wedi digwydd yr wythnos hon yn gywilydd, ydi, ond mae hefyd yn fradychu,” meddai Nigel Farage. “Mae Mrs May yn dweud erbyn hyn nad ydan ni’n ymadael ddydd Gwener nesaf (Mawrth 29), er ei bod hi wedi dweud ganwaith mai dyna fyddai’n digwydd…

“Felly mae rhywbeth yn mynd ymlaen, a dw i#n meddwl mai dyma un o benodau tristaf erioed yn hanes ein cenedl… a wnawn ni ddim derbyn hyn.”