Mae cynllun Brexit Theresa May yn y fantol ar drothwy pleidlais arall yfory (dydd Mawrth, Mawrth 12) oni bai ei bod hi’n dod i gytundeb tros ffiniau Iwerddon.

Fe fu trafodaethau aflwyddiannus yn Brwsel dros y penwythnos rhwng prif weinidog Prydain a Jean-Claude Juncker, arlywydd Comisiwn Ewrop, yn ogystal â thrafodaethau rhwng eu swyddogion.

Bellach, mae rhai aelodau seneddol yn galw am ohirio’r “bleidlais ystyrlon” yn hytrach na wynebu’r perygl o golli, a chyhoeddi cytundeb amodol tan fod modd dod i gytundeb. Ymhlith y rhai sy’n cefnogi hynny mae Jacob Rees-Mogg ac Andrew Mitchell.

Pleidlais rydd?

Yn y cyfamser, mae Steve Brine, y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus, yn dweud y bydd yn ymddiswyddo oni bai bod aelodau seneddol yn cael pleidlais rydd ar Brexit heb gytundeb.

Mae Michael Gove, Ysgrifennydd yr Amgylchedd, yn annog aelodau seneddol i gefnogi cynllun Theresa May.

Ond mae Nicky Morgan ymhlith y rhai sy’n galw am ohirio’r bleidlais, gan rybuddio y byddai dyfodol Theresa May hefyd yn y fantol pe bai ei chynllun yn cael ei wrthod.

Y tro diwethaf iddi ohirio pleidlais, o fis Rhagfyr i fis Ionawr, collodd hi o fwyafrif o 230 o bleidleisiau.

Ond y tro hwn, pe bai hi’n gohirio eto, mae’n annhebygol y bydd modd dod i gytundeb pellach cyn Mawrth 29, y dyddiad swyddogol ar gyfer Brexit.

Pe bai hi’n colli yfory, mae disgwyl pleidlais arall ddydd Mercher ar Brexit heb gytundeb, ac ar ddydd Iau ar ymestyn Erthygl 50, sef gohirio Brexit.

Yn y cyfamser, mae Llafur yn dweud na fyddan nhw’n cyflwyno gwelliant yn galw am ail refferendwm.