Mi fydd yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, yn cyfarfod penaethiaid yr heddlu ddydd Mercher i drafod troseddau treisgar yn dilyn cyfres o achosion o drywanu ar draws gwledydd Prydain.
Cafodd dau berson 17 oed eu trywanu yr wythnos ddiwethaf a bydd y cyfarfod yn cynnwys penaethiaid yr heddlu o’r ardaloedd sy’n cael eu heffeithio fwyaf.
- Lladdwyd Jodie Chesney mewn parc yn nwyrain Llundain ar nos Wener (Mawrth 1). Hi yw’r ugeinfed person i gael ei llofruddio yn Llundain yn ystod 2019.
- Cafodd bachgen o’r enw Yousef Ghaleb Makki ei drywanu ym mhentref Hale Barns, ger Altrincham ym Manceinion, ar nos Sadwrn (Mawrth 2) hefyd.
- Yn ychwanegol, cafwyd dyn yn euog o ladd Che Morrison, oedd yn 20 oed, tu allan i orsaf drenau yn Llundain ddydd Mawrth diwethaf (Chwefror 26).
Mae’r achosion hyn yn ychwanegol at y tri llanc gafodd eu lladd ar ôl cael eu trywanu o fewn pythefnos ym Mirmingham hefyd.
Mae Comisiynydd yr Heddlu yng Nghanolbarth Gorllewin Lloegr, David Jamieson, wedi dweud bod y sefyllfa yn “argyfwng cenedlaethol.”
“Ni all fynd yn ei faen”
“Mae pobol ifanc yn cael eu lladd ar draws y wlad ac ni all hyn fynd yn ei flaen,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid.
“Rydyn ni’n gweithredu mewn sawl man a byddwn yn cyfarfod a phenaethiaid yr wythnos hon i glywed beth yn fwy gallwn ei wneud.
“Mae’n hollbwysig ein bod yn uno i roi’r gorau i’r trais difrifol hwn,” ychwanegodd.
Dywedodd y Swyddfa Gartref ei fod yn gosod ystod o gamau gweithredu i fynd i’r afael â throseddau treisgar ym mis Hydref, gan gynnwys cronfa gwaddol ieuenctid gwerth £200 miliwn.
Mae’r Swyddfa Gartref hefyd yn cynnig £970 miliwn o gyllid ychwanegol i’r heddlu ar gyfer 2019-20