Mae Theresa May ac Imran Khan wedi trafod helynt Kashmir mewn sgwrs dros y ffôn.
Yn ystod y sgwrs gyda phrif weinidog Pacistan, fe bwysleisiodd prif weinidog Prydain yr angen i Bacistan fynd i’r afael â brawychiaeth er mwyn lleihau’r tensiwn gydag India tros y rhanbarth, meddai Downing Street.
Fe wnaethon nhw drafod achos yr anghydfod rhwng y ddwy wlad hefyd.
Daw’r sgwrs ar ôl i Bacistan ddychwelyd peilot i India, a gafodd ei gipio ar ôl hedfan ei awyren dros y ffin rhwng y ddwy wlad.
Mae Downing Street yn dweud bod Theresa May yn croesawu’r cam hwnnw, ac ymrwymiad Pacistan i geisio heddwch, er eu bod nhw wedi saethu awyren Indiaidd i lawr ddydd Mercher a chipio’r peilot.