Fe fydd aelodau seneddol y Blaid Lafur yn cael cyfarwyddyd i bleidleisio o blaid ail refferendwm Brexit, meddai John McDonnell, canghellor yr wrthblaid.
Mae’r mater wedi hollti barn aelodau seneddol y blaid dros y misoedd diwethaf, wrth i Caroline Flint ddatgan bod hyd at 70 ohonyn nhw’n gwrthwynebu ail refferendwm.
“Fel arfer rydym yn chwipio, ac fe fydd yn cael ei benderfynu yn y modd arferol gan y prif chwip a’r cabinet cysgodol a’r blaid ar y cyfan,” meddai John McDonnell wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.
“Ar fater fel yr un hwn, dw i’n credu y byddwn yn gweld chwip ond hefyd, mae’n rhaid i chi barchu safbwyntiau pobol a’u buddiannau etholaethol hefyd, ac fe fydd y trefniadau chwipio yn cael eu pennu mewn trafodaeth maes o law.”
Dywed fod angen gwarchod swyddi a’r economi.
Pleidlais rydd
Roedd Caroline Flint wedi bod yn galw am bleidlais rydd ar y mater, gan annog ei chydweithwyr i gefnogi cytundeb gwell o gofio addewid etholiadol y Blaid Lafur yn 2017 i barchu canlyniad y refferendwm.
“Fy apêl ar John McDonnell, Jeremy Corbyn, Keir Starmer yw i alluogi aelodau seneddol i gael pleidlais rydd ar gytundeb gwell,” meddai.
“Felly gall yr aelodau seneddol hynny sydd am gael ail refferendwm bleidleisio dros hynny, ond gall y rheiny ohonom sydd am gadw at ein haddewidion i’r etholwyr gadw ffydd ymysg y bobol hynny a phleidleisio dros gytundeb gwell.”
Mae disgwyl i aelodau seneddol gael “pleidlais ystyrlon” erbyn Mawrth 12, ac mae disgwyl i Lafur gyflwyno gwelliant ar fater ail refferendwm.
Pe bai cytundeb Theresa May yn cael ei wrthod, bydd modd i aelodau seneddol bleidleisio ar adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Os na fydd hynny’n llwyddo, fe allai’r aelodau seneddol benderfynu ymestyn dyddiad tanio Erthygl 50 er mwyn gohirio Brexit.