Mae plaid yr SNP ar fin cymeradwyo polisi newydd fyddai yn golygu y byddai Alban annibynnol yn cael ei harian ei hun.

Bydd cynnig yn cael ei drafod yng nghynhadledd y blaid fis nesaf yng Nghaeredin, yn dweud mai’r polisi swyddogol fyddai bod “llywodraeth SNP mewn Alban annibynnol yn sefydlu arian annibynnol”.

Byddai’r Alban yn parhau i ddefnyddio’r bunt mewn cyfnod o drawsnewid wedi unrhyw bleidlais i adael y Deyrnas Unedig.

Mae’r polisi newydd yn wahanol i’r hen un pan ddadleuodd yr SNP, adeg refferendwm annibyniaeth 2014, y byddai yn cadw’r bunt pe bai’r Alban yn dod yn wlad annibynnol.