Mae aelod seneddol wedi galw ar i’r heddlu ymchwilio i honiadau o gamymddwyn rhywiol gan y dyn busnes Syr Philip Green.

Ac mae gweinidog cabinet wedi galw am newid rheolau cytundebau sy’n clymu cyn-weithwyr rhag datgelu gwybodaeth am eu bosys.

Yn ôl yr aelod seneddol Llafur, Peter Kyle, mae honiadau am ymddygiad pennaeth Topshop yn gwarantu ymchwiliad heddlu.

Yn ôl papur y Daily Telegraph, mae wedi sgrifennu at bennaeth Heddlu Llundain, Cressida Dick, ac mae’r llu wedi cadarnhau ei bod hi wedi derbyn neges e-bost ganddo.

Galw am newid cytundebau

Yn y cyfamser, mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Liz Truss, yn dweud bod angen newid y math o gytundebau dim datgelu sydd wedi eu defnyddio gan Philip Green i rwystro cyn-weithwyr rhag siarad yn gyhoeddus am ei gamymddwyn.

“Dw i’n credu bod angen i ni edrych o ddifri at y cytundebau dim datgelu yma a’u newid achos dw i’n meddwl ei bod yn hollol anghywir fod pobol fel Philip Green yn gallu diystyru’r gyfraith,” meddai wrth raglen deledu ar Sky.

Daeth yr honiadau diweddara’ yn y Telegraph dros y Sul, gydag un o gyn-uwch swyddogion Philip Green yn dweud ei fod wedi ymyrryd yn rhywiol â hi – roedd wedyn wedi cael cytundeb gwerth £1 miliwn i gau ei cheg.

Mae llefarwyr ar ran Philip Green yn gwadu ei fod wedi ymddwyn mewn ffordd a fyddai’n torri’r gyfraith neu’n arwain at gyhuddiadau o gamymddwyn difrifol neu’n peryglu iechyd a diogelwch.