Y pier yn Gravesend (Clem Rutter CCA 3.0)
Heddiw yw’r diwrnod poetha’ erioed ym mis Hydref yng ngwledydd Prydain, yn ôl cofnodion y bobol dywydd.
Fe gododd y tymheredd i 29.9 gradd Celsius yn Gravesend yn ne-ddwyrain Lloegr – fymryn uwch na’r record blaenorol yng Nghaergrawnt yn 1985.
Dyna’r ucha’ ar gyfer mis Hydref ers i gofnodion ddechrau gael eu cadw ac mae sawl ardal arall yn nwyrain Lloegr wedi codi i tua 28 gradd. Mae ychydig yn oerach yng Nghymru.
Mae adroddiadau fod trefi glan môr yn brysur oherwydd yr Haf Bach Mihangel.
Roedd ddoe hefyd wedi torri’r record am ddiwrnod ola’ mis Medi gyda Chaergrawnt ac ardal yn Swydd Nottingham wedi codi i 29.2 gradd.
Y disgwyl yw y bydd y tywydd braf yn parhau tan ganol yr wythnos mewn rhai ardaloedd, ond fe allai rhwyfaint o law ddod i Gymru cyn hynny.