Mae Theresa May wedi addo “brwydro dros Brydain” wrth iddi geisio o’r newydd am gytundeb “pragmataidd” gyda Brwsel ynghylch ei chynllun Brexit.

Ond er mwyn gwneud hynny, bydd rhaid iddi allu darbwyllo penaethiaid Ewrop ac aelodau seneddol yn San Steffan o werth ei chynllun.

Mae’n dweud yn The Sunday Telegraph heddiw (Chwefror 3) fod Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur, yn cytuno fod rhaid newid y setliad ar gyfer ffiniau Iwerddon.

Mae hi dan y lach unwaith eto yn dilyn y newyddion fod cwmni ceir Nissan yn bwriadu gwneud tro pedol ynghylch y cynlluniau i godi safle newydd i adeiladu’r X-Trail 4×4 yn Sunderland.

Dywed yn yr erthygl y bydd hi’n dychwelyd i Frwsel “gyda mandad newydd, syniadau newydd a phenderfyniad newydd i geisio datrysiad pragmataidd sy’n cyflwyno’r Brexit y gwnaeth pobol Prydain bleidleisio amdano, tra’n sicrhau nad oes ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon”.

Mae disgwyl i Theresa May annerch y Senedd ar Chwefror 13, gan roi adborth iddyn nhw am y trafodaethau diweddaraf, ac mae disgwyl pleidlais arall y diwrnod canlynol.

Y meinciau cefn

Ers dechrau’r trafodaethau, mae aelodau’r meinciau cefn yn San Steffan wedi bod yn cyflwyno cyfres o welliannau i’r cynlluniau.

Ac mae Llafur wedi bod yn manteisio ar hynny, wrth i bolau piniwn awgrymu eu bod yn dod yn fwy poblogaidd yn sgil trafodaethau Brexit.

Ond mae Downing Street yn gwadu bod y pwysau arnyn nhw o du Llafur yn golygu y bydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar Fehefin 6.

Mae Steve Baker, dirprwy gadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, yn rhybuddio y gallai Theresa May wynebu “trafferthion” wrth geisio cefnogaeth aelodau’r meinciau cefn.

“Trafferth ar y gorwel,” meddai ar Twitter. “Pleidleisiodd ASau sydd o blaid gadael i gefnogi trefniadau amgen yng Ngogledd Iwerddon ond gydag amheuon difrifol am y cytundeb cyfan.