Mae Theresa May yn paratoi i ddychwelyd i ddinas Brwsel i geisio cyfaddawd ynghylch ei chynllun Brexit yn dilyn pleidlais yn San Steffan neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 29).

Ond mae penaethiaid Ewrop, gan gynnwys Donald Tusk, llywydd Cyngor Ewrop, a’r prif drafodwr Guy Verhofstadt yn mynnu mai’r hyn sydd wedi’i gytuno eisoes yw’r ffordd ymlaen, ac nad oes lle i drafod ymhellach.

Pleidleisiodd aelodau seneddol o 317 i 301 o blaid disodli’r cynlluniau dadleuol ynghylch ffiniau Iwerddon er mwyn osgoi Brexit caled, ac o blaid trafodaethau pellach.

Ond pleidleision nhw yn erbyn Brexit heb gytundeb, ac yn erbyn gwelliant i ymestyn Erthygl 50 pe na bai cytundeb yn ei le erbyn Chwefror 26.

Fe wnaethon nhw wrthod gwelliant arall gan Dominic Grieve, y cyn-Dwrnai Cyffredinol, am gyfres o bleidleisiau i ddangos beth fyddai orau gan aelodau seneddol o ran canlyniad trafodaethau Brexit.

Mae Theresa May yn mynnu ei bod yn bosibl o hyd i sicrhau cytundeb cyn y dyddiad ymadael ym mis Mawrth.

Ymateb Ewrop

“Y Bil Ymadael yw’r ffordd orau, yr unig ffordd, o sicrhau ymadawiad trefnus  y DU â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai llefarydd ar ran Donald Tusk.

“Mae’r ‘backstop’ yn rhan o’r Bil Ymadael, a does dim lle i aildrafod y Cytundeb Ymdael.”

Ac yn ôl Simon Coveney, Gweinidog Tramor Iwerddon, mae’r ‘backstop’ yn hanfodol er gwaetha’r bleidlais.

Mae sylwadau’r ddau wedi’u hategu gan Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc.

Ymateb yn San Steffan

Er yr ymateb chwyrn yn Ewrop, mae rhai o fewn y Ceidwadwyr yn mynnu y gall y blaid aros yn unedig.

Gall y blaid “ddod ynghyd er lles y genedl”, yn ôl Jeremy Hunt, Gweinidog Tramor San Steffan.

Ond mae Anna Soubry yn dweud ei bod hi’n gweld ei phlaid yn symud ymhellach “i’r dde”.

Cafodd gwelliant trawsbleidiol gan Caroline Spelman a Jack Dromey i wrthod Brexit heb gytundeb ei dderbyn o 318 i 310, ond dydy’r bleidlais ddim yn un y mae’n rhaid gweithredu arni yn ôl y gyfraith.

Serch hynny, mae’n rhoi pwysau ar Theresa May i sicrhau cytundeb cyn Mawrth 29.

“Rwy’n cytuno na ddylen ni adael heb gytundeb,” meddai prif weinidog Prydain. “Ond dydy gwrthod dim cytundeb, yn syml, ddim yn ddigon i’w atal.

“Bydd y Llywodraeth nawr yn ymdrechu i sicrhau cytundeb y gall y Tŷ hwn ei gefnogi,” meddai gan ategu ei neges na fyddai’n hawdd dod i gytundeb, er y byddai’n “adfer ffydd yn ein democratiaeth”.

Yn y cyfamser, mae Jeremy Corbyn yn dweud ei fod yn barod i gyfarfod â Theresa May er mwyn trafod y ffordd ymlaen.

Tra bod yr SNP yn cyhuddo’r Ceidwadwyr o “rwygo Cytundeb Gwener y Groglith yn ddarnau”, mae’r DUP yn dweud bod y fath sylw’n “ddiofal”.