Mae 5% o oedolion gwledydd Prydain yn amau bod yr Holocost wedi digwydd, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r ymchwil gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost hefyd yn dangos bod un o bob 12 o oedolion gwledydd Prydain yn credu bod y digwyddiad wedi cael ei orliwio.

Cafodd mwy na 2,000 o bobol eu holi, ac roedd 64% yn methu dweud faint o Iddewon a gafodd eu lladd neu wedi rhoi ffigwr llawer is na’r ffigwr go iawn.

Fe fydd mwy nag 11,000 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal heddiw i gofio’r erchylltra dan law’r Natsïaid a’r chwe miliwn o bobol a gafodd eu lladd.

Bydd yr achlysur hefyd yn gyfle i gofio am erchyllterau eraill yn Rwanda a Cambodia.

Ymateb i’r ymchwil

“Fe wnaeth yr Holocost fygwth gwead gwareiddiad, ac mae wedi cael goblygiadau i ni i gyd,” meddai Olivia Marks-Woldman, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost.

“Mae’r fath anwybodaeth eang, a hyd yn oed yr wfftio, yn syfrdanol.

“Heb ddealltwriaeth sylfaenol o’r hanes diweddar hwn, rydym mewn perygl o fethu â dysgu lle y gall diffyg parch at wahaniaethau a chasineb at eraill arwain yn y pen draw.

“Gyda chynnydd mewn troseddau casineb yn cael ei adrodd yn y DU, a gwrthdaro rhyngwladol gyda’r perygl o hil-laddiad, gall ein byd deimlo’n fregus a diniwed. Allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau.”

‘Addysg yn hanfodol’

“Rydym yn gwybod fod addysg yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn anwybodaeth a chasineb,” meddai Karen Pollock, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Addysg yr Holocost.

“Beth bynnag yw’r ystadegau, mae un person sy’n cwestiynu gwirionedd yr Holocost yn un yn ormod, a’n cyfrifoldeb ninnau yw gwneud mwy o ymdrech i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gwybod ei fod e wedi digwydd a dod yn dystion i un o’r penodau mwyaf tywyll yn ein hanes.”

“Rhaid i ni beidio byth ag anghofio lle y gall casineb a rhagfarn arwain,” meddai James Brokenshire, Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan.

“Mae’r llywodraeth hon yn glir nad oes lle i wrth-Semitiaeth yn ein cymdeithas, ac mae gennym oll ran i’w chwarae wrth herio casineb ac eithafiaeth, pryd bynnag a lle bynnag y bydd yn digwydd.”