Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi datgan nad oes modd “newid” cytundeb Brexit Theresa May.

Roedd y Prif Weinidog wedi apelio ar arweinwyr Ewrop i ganiatáu newidiadau i’r cytundeb, fel bod modd iddi ei phasio yn Nhŷ’r Cyffredin.

A daeth yr apêl wedi iddi ohirio pleidlais yn San Steffan – roedd tybiaeth gref y byddai’n colli.

Bellach mae Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd wedi amlinellu safiad yr Undeb Ewropeaidd.

“Dydyn ni ddim eisiau i’r Deyrnas Unedig gredu y gallan nhw negodi eto,” meddai Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker. “Rydym yn berffaith glir tros hynny”.

“Gallwn wneud ambell beth yn gliriach, ond does dim modd newid pethau go iawn.”

Y ffin

Dan y cytundeb yn ei ffurf bresennol, mi allai rhai o reolau’r Undeb Ewropeaidd barhau i fod mewn grym  yng Ngogledd Iwerddon yn dilyn Brexit.

Nod y trefniant yma yw rhwystro ffin galed – gwyriadau ffin ac ati – rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon ar ôl yr ymadawiad.

Mae Theresa May hefyd wedi galw am ragor o sicrwydd ynglŷn â’r posibiliad yma, ond mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gwrthod y cais hynny.

Yn ôl, Jean-Claude Juncker fe ddylai Theresa May beidio â disgwyl “ymrwymiad cadarn” gan yr Undeb Ewropeaidd tros y mater.