Mae busnesau yn “cael braw” wrth wylio’r hyn sy’n digwydd ymhlith gwleidyddion San Steffan, yn ôl cyngor sydd wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Prydain.

Daw’r sylwadau yn dilyn y cyhoeddiad bod Theresa May yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei harweinyddiaeth, ar ôl i 48 o lythyrau sydd eu hangen i orfodi pleidlais gael eu cyflwyno gan Aelodau Seneddol Ceidwadol.

Yn ôl Dr Adam Marshall, cyfarwyddwr cyffredinol Siambrau Masnach Prydain, dylai gwleidyddion ystyried yr effaith y mae eu gweithredoedd yn ei gael ar yr economi yn “un o’r cyfnodau mwyaf tyngedfennol … mewn degawdau.”

Mae’n ychwanegu ei bod hi’n “annerbyniol” fod gwleidyddion San Steffan yn dewis “canolbwyntio ar eu hunain” yn hytrach nag anghenion eraill.

Pryder

“All y braw sydd ymhlith busnesau wrth wylio’r digwyddiadau yn San Steffan ddim cael ei orbwysleisio.

“Mae ein cwmnïau yn bryderus; mae buddsoddwyr ledled y byd wedi’i siomi, ac mae yna straen ar farchnadoedd wrth i’r saga wleidyddol hon fynd yn ei blaen yn barhaus.

“Fydd hanes ddim yn garedig wrth y rheiny sy’n canolbwyntio ar fanteision gwleidyddion yn hytrach na bywoliaeth pobol.”