Mae cadeirydd Pwyllgor 1922 San Steffan wedi derbyn y 48 o lythyrau sydd eu hangen i orfodi pleidlais o ddiffyg hyder ym mhrif weinidog Prydain, Theresa May.

Owen Paterson yw’r aelod seneddol diweddaraf i gyhoeddi ei fod wedi cyflwyno llythyr i Syr Graham Brady.

Mae aelodau seneddol yn ddig ynghylch y ffordd y cafodd y bleidlais ar gynlluniau Brexit Theresa May ei gohirio ar ôl iddi ddatgan ei bod hi’n debygol o golli.

Daeth i’r amlwg neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 12) fod y bleidlais yn agos at gael ei chynnal yn dilyn trafodaethau yn hwyr y nos.

Ac mae adroddiadau heb eu cadarnhau fod Syr Graham Brady wedi gofyn am gyfarfod â Theresa May yn dilyn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog y prynhawn yma (dydd Mercher).

Mae Theresa May yn teithio i nifer o brifddinasoedd Ewrop i geisio cefnogaeth i’w chynlluniau, ond mae mater ffiniau Iwerddon yn dal yn faen tramgwydd.

Fe fydd hi’n cyfarfod â Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar yn ystod y dydd, cyn mynd i Frwsel yn ddiweddarach am uwchgynhadledd.

Mae hi eisoes wedi cyfarfod ag arweinwyr yr Almaen, yr Iseldiroedd, llywydd Cyngor Ewrop a llywydd Comisiwn Ewrop yn ystod ei thaith.

Mae disgwyl hefyd iddi gyfarfod ag arweinydd plaid Wyddelig y DUP, Arlene Foster, sy’n gwrthwynebu cynlluniau dros dro ynghylch Iwerddon.

Mae Theresa May yn gwrthod ailgyflwyno ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.