Mae cynrychiolwyr o bedair plaid yn San Steffan wedi ysgrifennu at Jeremy Corbyn yn ei annog i alw am bleidlais o ddiffyg hyder yn awdurdod Theresa May.
Mae’r llythyr yn cynnwys enwau Liz Saville Roberts o Blaid Cymru; Ian Blackford o’r SNP; Caroline Lucas o’r Blaid Werdd, a Vince Cable o’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Daw eu hanogaeth i arweinydd y Blaid Lafur yn dilyn y cyhoeddiad gan Theresa May fod y bleidlais ar Brexit, yr oedd disgwyl iddi gael ei chynnal yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (Rhagfyr 11), wedi’i gohirio.
Yn ôl y llythyr, mae yna achos “sylweddol” o blaid cynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth, a allai arwain yn y pen draw at ail refferendwm ar Brexit.
“Rydym yn credu bod angen cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder cyn gynted â phosib er mwy sicrhau digon o amser i ddilyn trywydd arall,” meddai’r llythyr wedyn.
“Felly, rydym ni am bwysleisio eto fod gennych chi ein cefnogaeth lawn os byddwch chi’n cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder.”
Rhwystrau yn Ewrop
Yn y cyfamser, mae Theresa May yn cyfarfod ag arweinwyr a swyddogion yr Undeb Ewropeaidd er mwyn gweld a oes modd aildrafod rhannau o’r cytundeb Brexit.
Mae llefarydd ar ei rhan wedi cadarnhau ei bod hi’n bwriadu cynnal pleidlais ar y cytundeb yn y Senedd “cyn Ionawr 21”.
Ond er gwaethaf ei hymdrechion, mae Jean-Claude Juncker eisoes wedi dweud ei fod yn dal i gredu mai’r cytundeb yn ei ffurf bresennol yw’r un “gorau posib”, ac nad oes lle i ailagor y trafodaethau arno.
Mae disgwyl i’r ddau gyfarfod yn hwyrach yn y dydd.