“Mae angen archwilio pennau” y rhai sy’n galw am ail refferendwm Brexit, yn ôl Iain Duncan Smith.
Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn rhybuddio y byddai cynnal ail refferendwm ar ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd yn achosi rhagor o raniadau.
Bydd rhai yn teimlo “wedi’u bradychu ac yn grac iawn”, meddai, gan gyfeirio at y protestiadau sydd ar y gweill yn Ffrainc yn sgil dicter y Ffrancwyr tuag at yr Arlywydd Emmanuel Macron.
‘Refferendwm arall’
“Y broblem gyda’r holl drafod a chwyno parhaus am refferendwm arall yw na fydd yna refferendwm arall,” meddai wrth raglen Pienaar’s Politics ar BBC Radio 5 Live.
“Os yw unrhyw un yn credu go iawn eu bod nhw am gynnal ail refferendwm, yna mae angen archwilio eu pennau.
“Os ydych chi’n credu bod y wlad wedi’i hollti nawr, arhoswch nes eich bod yn ceisio cynnal yr ail refferendwm hwnnw.
“Mae yna dolc helaeth iawn o bobol a fyddai’n teimlo wedi’u bradychu’n llwyr ac yn grac iawn, ac rwy’n eich rhybuddio chi i edrych dros y Sianel. Dydyn ni ddim yn bell o’r math yna o broses yn digwydd yma.”