Mae gŵr i gymhorthydd dysgu, a fu farw o ganlyniad i lawdriniaeth gosmetig ar ei phen ôl, yn rhybuddio menywod eraill i beidio â theithio dramor i gael llawdriniaethau tebyg.

Mae Kirk Harry wedi gwneud ei apêl ar ddiwedd cwest i farwolaeth ei wraig, Tryce Harry, er iddo ar un adeg gefnogi ei “breuddwyd” hi o newid ei chorff trwy ddulliau annaturiol.

Clywodd Llys Crwner Birmingham bod Tryce Harry wedi dioddef trawiad ar y galon awr ar ôl diwedd tair llawdriniaeth – un ar ei bol, un i amsugno braster, ac un arall i drosglwyddo’r braster hwnnw i’w phen ôl.

Dangosodd archwiliad post-mortem fod y fam 49 oed o Hockley, Birmingham, wedi marw o ganlyniad i embolism, a bod yr arbenigwyr wedi methu â’i chadw’n fyw, er gwaethaf CPR.

Bu farw mewn clinig yn ninas Bwdapest ar Fawrth 19 eleni.