Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi teithio i Frwsel i drafod ei chytundeb Brexit gyda Llywydd Comisiwn Ewrop, Jean-Claude Juncker a Llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk.

Daw’r trafodaethau ar drothwy uwchgynhadledd o arweinwyr gwledydd Ewrop ddydd Sul, lle bydd telerau ymadawiad Prydain yn cael eu trafod.

Mae Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sanchez wedi bygwth gwrthod cefnogi’r cytundeb heb fod rhagor o sicrwydd tros statws Gibraltar.

Ac mae perthynas Theresa May â phlaid Wyddelig y DUP hefyd yn y fantol, wrth i’r blaid baratoi ar gyfer cynhadledd yn Belfast. Bydd cyn-Weinidog Tramor, Boris Johnson yn y gynhadledd.

Mae’r arweinydd Arlene Foster yn rhybuddio y byddai angen adolygu’r cytundeb sy’n cynnal llywodraeth leiafrifol Theresa May pe bai cytundeb arfaethedig Brexit yn mynd rhagddo.

Sbaen a Gibraltar

Mae’r tyndra ynghylch dyfodol Gibraltar yn bygwth perthynas Prydain a Sbaen ar hyn o bryd.

Mae Sbaen yn mynnu y dylid trin y mater fel un rhwng Llundain a Madrid yn hytrach na’r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Prydain.

Mae Pedro Sanchez wedi rhybuddio y dylid canslo’r uwchgynhadledd oni bai bod modd dod i gytundeb ynghylch y sefyllfa.

Ond mae Theresa May yn mynnu bod ei chytundeb arfaethedig er lles “teulu cyfan Prydain”, sydd hefyd yn cynnwys Gibraltar.

Gwrthwynebiad i’r cynllun

Mae cynllun arfaethedig Theresa May yn wynebu gwrthwynebiad o sawl cyfeiriad ar hyn o bryd.

Mae mwy nag 80 o aelodau seneddol Ceidwadol ar y ddwy ochr i ddadl yr Undeb Ewropeaidd yn bygwth pleidleisio yn erbyn y cytundeb.

Ac fe allai’r ffrae tros y cytundeb chwalu’r llywodraeth yn gyfangwbl, wrth i’r DUP fygwth tynnu ei chefnogaeth yn ôl.

Er gwaetha’r gwrthwynebiad o sawl cyfeiriad, mae Theresa May yn mynnu na fydd hi’n ildio tir mor hwyr yn y trafodaethau.