Mae gwyddonwyr wedi galw am hetiau gorfodol i’w cael eu cyflwyno i chwaraewyr rygbi gan ei fod yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn lleihau anafiadau pen.
Yn ôl tîm o Brifysgol Dundee, mae 47% yn llai o effaith i’r pen wrth ddefnyddio hetiau ac maen nhw nawr yn galw ar “synnwyr cyffredin” penaethiaid rygbi i’w wneud yn orfodol.
Mae’r Athro Rami Abboud yn poeni am broblemau anafiadau pen mewn gemau rygbi ac yn esbonio ei fod wedi “dod yn gynyddol gyffredin dros y blynyddoedd diwethaf”.
“Mae’r ymchwil wedi dangos pa mor arwyddocaol y gall cynnyrch gwarchod pen fod er mwyn lleihau’r risg y mae chwaraewyr rygbi yn ei wynebu ar y cae.”