At y rhyngrwyd mae pobol ifanc yn fwyaf tebygol o droi os ydyn nhw am gael cymorth â phorblemau iechyd meddwl.
Dyna yw casgliad arolwg o 1,000 o bobol gan Censuswide, dan gomisiwn tootoot – cyfleuster ar lein i gynorthwyo pobol sy’n cael eu bwlio.
Mae’n debyg bod 65% o bobol 16 i 24 blwydd oed yn dewis troi at y we, yn hytrach na throi at eu teuluoedd a’u ffrindiau am gymorth.
Google yw’r ffynhonnell wybodaeth fwyaf poblogaidd, ond mae fforymau anhysbys, apiau ffôn, a chyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu defnyddio.
“Neges glir”
“Nid at ffynonellau cymunedol mae pobol ifanc fwyaf tebygol o droi atyn nhw,” meddai sylfaenydd a Phrif Weithredwr tootoot, Michael Brennan. “Dyma neges glir o hynny.
“Felly, rhaid sicrhau bod arian yn cael ei fuddsoddi mewn cymorth iechyd meddwl ar-lein, yn ogystal â chymorth iechyd meddwl yn y cnawd.”