Mae cwmni ceir mwyaf gwledydd Prydain wedi cyhoeddi cynllun gwerth £2.5bn er mwyn ceisio achub y busnes.

Mae Jaguar Land Rover, sy’n eiddo i gwmni Tata o India, wedi gwneud colledion o £90m yn ystod yr haf, o gymharu â’r elw o £385m yn ystod yr un adeg y llynedd.

Yn ôl penaethiaid y cwmni, maen nhw wedi cyhoeddi’r cynllun newydd, sy’n cynnwys arbedion costau, o ganlyniad i nifer o ffactorau yn y farchnad geir.

Yn eu plith mae’r “ansicrwydd” sy’n bodoli ynghylch Brexit, yn ogystal â’r rhyfel fasnach rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina sydd wedi arafu gwerthiant.

Targed y cwmni ar gyfer y flwyddyn a hanner nesaf yw gwneud gwerth £2.5bn o welliannau o ran elw a chostau.

Maen nhw hefyd yn gobeithio lleihau gwariant i tua £4bn y flwyddyn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a’r un nesaf.

Trafferthion

Ym mis Medi, fe gyhoeddodd y cwmni y byddan nhw’n torri’n ôl ar y gwaith o gynhyrchu ceir yn eu ffatri yn Solihull ger Birmingham, gyda diwrnodau gwaith staff yn cael eu lleihau i dri diwrnod tan y Nadolig.

Maen nhw hefyd wedi dweud y byddan nhw’n rhoi’r gorau i’r gwaith cynhyrchu am gyfnod o pythefnos oherwydd dirywiad yn yr angen am geir.

Mae cynlluniau ar y gweill gan y cwmni i symud y gwaith o adeiladu’r model Discovery o’r safle yng nghanolbarth Lloegr i Slofacia.