Mae’r heddlu’n chwilio afon am Sarah Wellgreen, 46, sydd ar goll o Swydd Caint ers Hydref 9.

Roedd adroddiadau ddeuddydd yn ddiweddarach bod y fam i bump ar goll ac nad oedd ei theulu wedi clywed ganddi.

Mae’r heddlu’n ystyried y posibilirwydd iddi gael ei llofruddio.

Mae hi’n cael ei disgrifio fel dynes â chroen gwyn, 5’7″ ac o gorffolaeth denau. Mae ganddi lygaid gwyrdd a gwallt brown at ei hysgwyddau.

Fe fu’r heddlu eisoes yn defnyddio dronau i chwilio amdani.

Cafodd dyn yn ei 30au ei arestio ar Hydref 16, ond mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tan 16 Tachwedd wrth i’r ymchwiliad barhau.