Mae tri o bobol wedi marw mewn gwrthdrawiad ar gyrion Dinbych.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Corsa a Vauxhall Antara ar y ffordd rhwng Trefnant a Dinbych toc cyn 7.30yh neithiwr (nos Wener, Hydref 26).

Bu farw’r tri yn y fan a’r lle, a chafodd tri o bobol eraill eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol. Cafodd un person arall fân anafiadau.

Mae teuluoedd y rhai fu farw’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu sy’n ymchwilio i’r digwyddiad.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio am wybodaeth, ac mae’r ffordd ar agor ers 3yb.