Mae pennaeth y Gwasanaeth Sifil, Syr Jeremy Heywood wedi camu o’r neilltu wrth iddo ganolbwyntio ar wella o ganser.

Mae Syr Mark Sedwill, sydd wedi bod yn y swydd dros dro ers mis Mehefin, wedi cael ei benodi i’r swydd yn barhaol gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May.

Fe fu Syr Jeremy Heywood yn Ysgrifennydd Cabinet ers 2012 ac yn bennaeth y Gwasanaeth Sifil ers 2014. Mae wedi gweithio o dan y cyn-Brif Weinidogion Tony Blair, Gordon Brown a David Cameron.

Cafodd wybod ym mis Mehefin 2017 ei fod yn dioddef o ganser ond fe arhosodd yn ei swydd yn dilyn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn dilyn canlyniad ysgytwol i’r Ceidwadwyr.

Datganiad

Mewn datganiad yn cyhoeddi ei ymadawiad, dywedodd Syr Jeremy Heywood: “35 o flynyddoedd yn ôl, ymunais i â’r Gwasanaeth Sifil yn economegydd brwd ac ifanc o fewn y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, yn llawn syniadau ac yn awyddus i sicrhau bod newidiadau’n digwydd.

“Heddiw, mae gen i’r un awydd i wasanaethu fy ngwlad ac i wneud gwahaniaeth positif. Gyda thristwch mawr, felly, ar sail cyngor meddygol, mae’n rhaid i fi ymddeol.”

‘Gwasanaeth rhagorol’

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Theresa May, “Mae Jeremy wedi rhoi gwasanaeth rhagorol i’r cyhoedd yn ystod ei yrfa gyda’r Gwasanaeth Sifil.

“Mae wedi gweithio’n gyson i wella dyfodol ein gwlad ac i gyflawni er lles y cyhoedd, gan wasanaethu prif weinidogion a gweinidogion o bob plaid gyda rhagoriaeth yn nhraddodiad gorau’r Gwasanaeth Sifil.

“Rwy’n bersonol ddiolchgar iddo am y gefnogaeth a roddodd i fi fel Prif Weinidog. Mae wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd cyhoeddus yn ein gwlad, ac fe fydd colled fawr ar ei ôl.”

I ddangos ei gwerthfawrogiad, mae Theresa May wedi enwebu Syr Jeremy Heywood am anrhydedd oes yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Teyrnged gan ei olynydd

Wrth dalu teyrnged i’w ragflaenydd, dywedodd Syr Mark Sedwill, cyn-ymgynghorydd diogelwch Theresa May, “Bydd yr holl gyhoedd am ddiolch i Jeremy am ei wasanaeth diflino a rhagorol i’n cenedl, ac am y gwerthoedd y mae’n esiampl ohonyn nhw.

“Mae e wedi cael effaith ddwys, bositif a hirdymor, ac fe fydd colled enfawr ar ei ôl.”

Teyrnged gan Lafur

Ar ran y Blaid Lafur, dywedodd yr arweinydd Jeremy Corbyn fod Syr Jeremy Heywood yn “was sifil gwybodus ac ymroddgar sydd wedi creu argraff”.

Dywedodd yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ei fod yn dymuno’n dda iddo wrth iddo wella o ganser.