Mae trefnwyr rali fawr yn Llundain i alw am ail refferendwm ar Brexit wedi amcangyfrif fod 700,000 wedi ymuno â gorymdaith yno.
Nid yw’r heddlu yn Llundain wedi cadarnhau os yw’r ffigwr yn gywir.
Ymysg y rhai yn gorymdeithio roedd cannoedd o bobol o Gymru benbaladr.
Roedd cwmni teledu Cwmni Da o Gaernarfon wedi noddi bws i fynd â phobol i Lundain ar gyfer gorymdaith Pleidlais Y Bobol.
Un o’r gorymdeithwyr oedd y Cynghorydd Plaid Cymru o Lanrwst, Aaron Wynne.
Meddai: “Mae yna 50 ohona ni wedi dod ar y bws o Gaernarfon ac mae yna 15 bws o Gymru benbaladr. Y rheswm yr ydwi i wedi dod i’r orymdaith heddiw ydi ddim oherwydd mod i’n gwrthwynebu’r refferendwm ond yn hytrach oherwydd fy mod eisiau dangos i San Steffan fod gan y bobol hawl i roi eu sêl bendith ar unrhyw ddêl.”
Ymysg y siaradwyr oedd arweinydd Plaid Cymru Adam Price, Maer Llundain Sadiq Khan a’r gogyddes Delia Smith.
Daeth nifer o wynebau amlwg o’r byd adloniant hefyd i ddangos eu hanfodlonrwydd a’r sefyllfa bresennol.
Trydarodd y cogydd Hugh Fearnley-Whittingstall fod Theresa May yn coginio “trychineb” a’i fod e yn cefnogi Delia Smith.
Yn eu mysg hefyd roedd Deborah Meaden o raglen Dragon’s Den.