Lladron yn targedu ceir Ford Fiesta

Pryder ynglŷn â diogelwch cerbydau mewn meysydd parcio ysbytai

Ceir newydd

Ceir newydd

Mae lladron yn  targedu ceir Ford Fiesta ar hyd a lled Cymru oherwydd eu system awtomatig i agor drysau heb angen allwedd.

Dywedir fod y lladron yn cymeryd mantais o’r sefyllfa hefyd i ddwyn darnau o’r ceir.

Mae Heddlu’r De nawr wedi cyhoeddi rhybudd i yrrwyr ar sut y gallan nhw ddiogelu eu hunain.

Rhai o’r llefydd ble mae’r lladron wedi bod wrthi yw meysydd parcio staff ysbytai, ble mae nhw yn gwybod y bydd y perchnogion yn gadael eu ceir am gryn amser.

Dros y chwe mis diwethaf mae naw o geir a barciwyd y tu allan i ysbytai Singleton a Threforys yn Abertawe ag ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhenybont-ar-Ogwr wedi cael eu dwyn – yng ngolau dydd – gyda saith ohonyn nhw yn Ford Fiestas.

Yn ystod yr un cyfnod dygwyd paneli o gyrff naw Fiesta arall yn ogystal â darnau eraill tra roedden nhw wedi’u parcio mewn meysydd parcio ysbytai.

Ymhlith y ceir a dargedwyd oedd ceir yn perthyn i’r ysbytai eu hunain.

Cafodd un o’r digwyddiadau ei ffilmio ar gamerau cylch cyfyng.

Credir fod y lladron yn gwisgo helmedau beiciau modur i guddio eu hwynebau.

Mae Heddlu’r De yn awgrymu y dyle perchnogion ceir nawr ddefnyddio cloeon ar eu olwynion llywio yn ogystal â sicrhau nad oes modd i ladron ddenfyddio eu hallweddi mewn unrhyw fodd.

← Stori flaenorol

Yr Arglwydd Penrhyn

Egluro dryswch Ffordd Penrhyn yn y Barri

Ffordd Y Penrhyn oedd yr enw yn ôl yr ymgynghoriad gwreiddiol yn 2017, ond y fannod wedi’i hepgor erbyn hyn

Stori nesaf →

Llong ofod yn dechrau ei thaith saith mlynedd i’r blaned Mercher

Gobaith datgelu’r gwirionedd am blaned hynod

Hefyd →

Cyhoeddi cymorth i fynd i’r afael ag effeithiau’r llifogydd

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu awdurdodau lleol i ddarparu grantiau o £1,000 i aelwydydd heb yswiriant, neu £500 i aelwydydd ag yswiriant