Mae dwy ddynes o wledydd Prydain wedi cael eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad yn Oman.
Cafodd dyn anafiadau ond mae lle i gredu ei fod e mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.
Mae’r heddlu yn y wlad yn cynnal ymchwiliad.
Fe ddigwyddodd ger marchnad yn Salalah, ar y ffin â Yemen ddydd Iau.
Dydy’r heddlu ddim wedi cyhoeddi enwau’r tri na gwybodaeth amdanyn nhw.