Mae Boris Johnson wedi beirniadu cynlluniau Brexit Theresa May yn chwyrn ddyddiau’n unig cyn cynhadledd y Blaid Geidwadol.
Dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Tramor, a ymddiswyddodd o’r Cabinet ym mis Gorffennaf, fod cynllun Chequers y Prif Weinidog yn “sarhad moesegol a deallusol i’r wlad hon”.
Mewn erthygl yn y Telegraph, fe gyhuddodd y Llywodraeth a’r gwasanaeth sifil o berfformiad gwael yn y trafodaethau.
Yn ei golofn, sy’n dwyn y teitl “A better plan for Brexit”, mae Boris Johnson hefyd yn amlinellu gweledigaeth amgen a fyddai’n gwneud Prydain yn “gyfoethog, yn gadarn ac yn rhydd.”
Mae’n annog y Llywodraeth i roi’r gorau i gynllun Chequers a thrafod cytundeb tebyg i Ganada a fyddai’n caniatáu masnach rydd.