Mae mudiad ieuenctid Girlguiding wedi amddiffyn eu polisi o dderbyn aelodau trawsrywiol, gan wfftio’r honiadau ei fod yn peryglu merched.
Un o brif amcanion yr elusen yw rhoi cyfle i ferched ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau anturus, ac ers y llynedd mae unigolion nad ydyn nhw’n “fiolegol fenywaidd” wedi cael yr hawl i ymuno.
Ond, mae’r penderfyniad wedi corddi ambell un o fewn y corff, ac yn gynharach yn y mis cafodd arweinyddion eu gwahardd ar ôl gwrthwynebu’r cam yn gyhoeddus.
Bellach mae Girlguiding wedi ymateb gan ddweud: “Dydi’r ffaith bod person yn drawsrywiol ddim yn golygu eu bod yn peri mwy o risg nag unrhyw berson arall.
“Dros y dyddiau diwethaf, mae’n bosib eich bod wedi gweld polisi Girlguiding tros gydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei feirniadu yn y wasg,” meddai’r elusen wedyn.
“Yr honiad yw bod ein polisi o dderbyn aelodau trawsrywiol yn peri risg i ferched. Dydi hynny ddim yn wir.”
Llythyr
Ym mis Ebrill, fe wnaeth 224 o bobol gan gynnwys arweinwyr, cyn-arweinwyr, gwirfoddolwyr a rhieni arwyddo llythyr agored yn beirniadu’r polisi.
“Mae bachgen sy’n uniaethu â hunaniaeth merch, yn wrywaidd o hyd yn gyfreithiol ac yn gorfforol,” meddai’r llythyr.
Roedd 12 arweinydd grŵp ymhlith y bobol a arwyddodd y llythyr, a chafodd dwy o rheiny eu gwahardd am ei bod, yn ôl Girlguiding, wedi gwneud sylwadau pellach ar gyfryngau cymdeithasol.