Mae bachgen 13 oed wedi cael ei gyhuddo o yrru’n beryglus, wedi i Heddlu Gorllewin Swydd Efrog ei gwrsio a’i amau o ddwyn car.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron ynadon yn Bradford heddiw (dydd Mawrth, Medi 25) gan wynebu hefyd gyhuddiadau o yrru tra wedi’i wahardd, ac o fwrgleriaeth.

Fe ddigwyddodd y ras fore Llun, wedi i swyddogion weld y car Volkswagen Golf ac amau iddo gael ei ddwyn yn ystod digwyddiad yn Shipley ger Bradford.

Yn ystod y cwrs, roedd y car yn teithio ar gyflymder o 100 milltir yr awr, cyn cael ei orfodi i ddod i stop. meddai’r heddlu.

Mae bachgen 16 oed hefyd wedi cael ei gyhuddo o gymryd car heb ganiatad y gyrrwr, ac mae’r ddau fachgen wedi cael eu cadw yn y ddalfa cyn y byddan nhw’n ymddangos gerbron y llys.