Bydd y Blaid Lafur yn gwrthod unrhyw ymgais i orfodi ‘Brexit dall’ ar wledydd Prydain, yn ôl llefarydd Brexit y blaid, Keir Starmer.
Daw ei sylwadau wrth i Faer Llundain, Sadiq Khan alw am ail refferendwm ar amodau’r ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd, gan y dylai’r cyhoedd gael y gair olaf ar yr hyn sy’n digwydd nesaf, meddai.
Mewn erthygl yn yr Observer, dywed Sadiq Khan fod y Deyrnas Unedig yn wynebu cytundeb gwael neu ddim cytundeb o gwbwl.
“Mae yna risg sylweddol i’r ddau a dydw i ddim yn credu bod gan Theresa May fandad i gamblo mor ffwrdd-â-hi ag economi Prydain a bywoliaeth pobol.”
Ymhlith yr opsiynau y dylid eu rhoi i bobol gwledydd Prydain, meddai, yw aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Rhagor o wrthwynebiad
Fe fydd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn wynebu pwysau yn yr hydref i gefnogi refferendwm Brexit newydd.
Ac mae Theresa May hithau dan bwysau yn sgil ei chynlluniau er mwyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a hynny gan y rhai sydd am weld ‘Brexit caled’.
Heb rywfaint o gefnogaeth gan Lafur, mae’n annhebygol y bydd y cynlluniau’n cael eu cymeradwyo.
Yn y cyfamser, mae Keir Starmer yn galw am gynnwys aelodaeth o’r farchnad sengl a’r undeb tollau yn y cytundeb cyn y bydd Llafur yn fodlon cefnogi’r cynlluniau.