Mae’r cerddor a’r ymgyrchydd amgylcheddol, Cian Ciarán, wedi postio fideo ar y we o’r llong y mae e’n dweud sydd “wedi cachu ar Gymru” trwy ddympio mwd niwclear yn y môr.
Roedd y bad o wlad Belg newydd ollwng 2,000 tunnell o fwd i’r môr pan gafodd y fideo ei chreu gan yr aelod o’r Super Furry Animals ddydd Gwener, Medi 14.
Y nod yw symud 300,000 tunnell o fwd o orsaf niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf i safle sydd dros filltir o Fae Caerdydd.
Mae profion wedi cael eu cynnal ar y mwd gan asiantaeth Llywodraeth Prydain, CEFAS, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo canlyniadau’r profion hynny.
Ond mae ymgyrchwyr yn dal i boeni am y lefelau o ymbelydredd yn y mwd, gan honni bod yna ddiffyg profion wedi cael eu cynnal arno gan EDF, sy’n gyfrifol am y mwd.
Her gyfreithiol
Roedd Cian Ciarán ymhlith yr ymgyrchwyr a gyflwynodd her yn yr Uchel Lys ddydd Llun diwethaf (Medi 10).
Maen nhw’n dadlau bod y llong yn torri’r gyfraith wrth ddympio’r mwd, gan nad oes yna asesiad amgylcheddol wedi cael ei gwblhau.
Mae fideo Cian Ciarán yn dechrau wrth iddo ddweud, “Dyma’r cwch sydd newydd gachu ar Gymru. Dyma sut mae’n edrych, bobol.”
Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud mai “cwch o Wlad Belg sy’n symud mwd Ffrengig sydd wedi cael ei ariannu gan drethdalwyr Prydain a’i ollwng yng Nghymru”.