Cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith ‘dderbyniad priodas’ symbolaidd wrth agor fforwm cyhoeddus yng Nghaerfyrddin fore Sadwrn.
Nod y seremoni symbolaidd yn llyfrgell y dref oedd dangos y berthynas rhwng datblygu economaidd a hybu’r Gymraeg fel prif iaith Sir Gaerfyrddin.
Mae’r ddau fater, meddai’r Gymdeithas, wedi cael sylw fel materion unigol dros y blynyddoedd diwethaf.
Mewn datganiad, dywedodd Ffred Ffransis, “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu dwy drafodaeth gyfangwbl ar wahân yn Sir Gâr.
“Bu llawer o drafod ar ddatblygu economaidd i greu swyddi, a bu hefyd drafod ar strategaeth i hybu’r Gymraeg fel prif iaith y sir.
“Ond does fawr ddim cyswllt wedi bod rhwng y ddwy drafodaeth hyn, heblaw am annog busnesau presennol i wneud defnydd o’r iaith.
“Rydyn ni yma heddiw yn dystion i briodas rhwng y ddau hyn. Byddwn yn trafod pa fath o ddatblygu economaidd y mae ei angen i gynnal yr iaith a chymunedau Cymraeg, ac yn enwedig i leihau’r allfudiad o bobol ifainc o’r sir.
“Nid unrhyw fath o ddatblygu economaidd, ond byddwn yn trafod pa fath o ddatblygiadau ac ymhle er mwyn cynnal ein cymunedau a rhoi cyfle i ieuenctid sy’n derbyn eu haddysg yn Gymraeg i ennill bywoliaeth yma hefyd.”
‘Gwaith i gynnal yr iaith’
Yn ystod y digwyddiad, cafodd papur ei gyflwyno gan Wynfford James yn dwyn y teitl ‘Gwaith i Gynnal yr Iaith’, a daeth ymatebion gan y Cynghorydd Emlyn Dole, arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Cefin Campbell, cadeirydd y gweithgor sy’n paratoi adroddiad ar gymunedau gwledig y sir, a’r cyn-Aelod Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas a gyhoeddodd adroddiad ar y pwnc yn 2014.
Fel rhan o’r ymdrechion i ddangos sut mae mentrau economaidd lleol yn llwyddo, cafodd waffles Tregroes, sy’n cael eu cynhyrchu gan Gymry Cymraeg ym Mhont-tyweli, eu dosbarthu yn ystod y digwyddiad.