Fe fydd Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab yn cael ei holi’n ddiweddarach heddiw am gynlluniau Prydain er mwyn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Llywodraeth Prydain yn wynebu beirniadaeth gynyddol am y ffordd y mae’r broses yn mynd rhagddi.
Ymhlith y rhai fu’n beirniadol mae cyn-bennaeth Banc Lloegr, Mervyn King, sy’n rhybuddio bod y llywodraeth wedi colli’r grym i daro bargen.
Ond nid y llywodraeth yn unig sy’n ei chael hi ganddo fe. Mae e hefyd yn dweud bod y bai ar y Senedd yn ei chyfanrwydd a swyddogion Whitehall.
Ymchwil y BBC
Daw sylwadau Mervyn King wrth i ymchwil y BBC awgrymu bod llai nag un ym mhob pump o bleidleiswyr yn disgwyl i Brydain daro bargen dda fel rhan o drafodaethau Brexit.
Fe fu gostyngiad o 33% oedd yn credu hynny yn Chwefror 2017 i 17% fis Mehefin eleni.
Ac fe fu cynnydd o 37% i 57% yn y nifer sy’n credu y bydd Prydain yn taro bargen wael.
Gohirio Brexit?
Mae Maer Manceinion, Andy Burnham yn paratoi i alw mewn araith heddiw am ohirio Brexit er mwyn sicrhau’r fargen orau ac osgoi diffyg cytundeb ar ddiwedd y trafodaethau.
Fe fydd yn dweud bod angen “cael Brexit yn gywir”.
Mae disgwyl iddo alw am refferendwm ar delerau Brexit, gan ddweud y dylid ymestyn cyfnod Erthygl 50 i fis Mawrth y flwyddyn nesaf pe na bai cytundeb yn bosib.
Daw ei sylwadau ar ôl i Dominic Raab ddweud wrth aelodau seneddol y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen yn “cynnig cyfleoedd” i Brydain, ond gan fynnu bod cytundeb yn dal yn bosib.
Serch hynny, mae prif drafodwr Brexit, Michel Barnier yn “gwrthwynebu’n gryf” y cynigion sydd wedi’u cyflwyno gan Brydain hyd yn hyn.
Mae Mervyn King wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “ddiffyg paratoi”, ac y byddai angen blynyddoedd o baratoi er mwyn osgoi camgymeriadau – nid misoedd yn unig.