Fe fydd dyn gerbron ynadon heddiw (dydd Sadwrn, Medi 1), wedi’i gyhuddo o lofruddio mam a merch yn Solihull.

Mae Janbaz Tarin wedi’i gyhuddo o lofruddio ei gyn-bartner Raneem Oudeh, 22, a’i mam Khaola Saleem, 49.

Cawson nhw eu trywanu i farwolaeth yng nghartref Khaola Saleem toc ar ôl 12.30yb ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Cafodd Janbaz Tarin ei arestio yn ardal Sparkhill yn Birmingham ddydd Iau, a’i gyhuddo ddydd Gwener.

Roedd gan Raneem Oudeh ferch fach ddwy oed, ac mae hithau’n un o chwech o blant. Mae’r teulu’n hanu o Syria, ac wedi diolch am y gefnogaeth iddyn nhw ers y digwyddiad.