Mae gwleidydd enwoca’r SNP yn yr Alban wedi gadael y blaid oherwydd honiadau ei fod wedi ymddwyn yn anweddus at ddwy fenyw.
Fe gyhoeddodd Alex Salmond, cyn Brif Weinidog y wlad, ei fod yn rhoi’r gorau i’w aelodaeth er mwyn osgoi ymosodiadau ar yr SNP a’r peryg o rwygiadau ynddi.
Mewn neges fideo neithiwr, fe ddywedodd hefyd ei fod yn agor cronfa ariannol i’w helpu i ymladd y ddau gyhuddiad o gam-ymddwyn rhywiol.
Mae Nicola Sturgeon, Prif Weinidog presennol yr Alban a chydweithwraig agos i Alex Salmond, yn dweud ei bod wedi derbyn y newydd gyda “thristwch mawr”.
Ofni rhwyg sylweddol
“Dw i wir yn caru’r SNP a’r mudiad annibyniaeth ehangach yn yr Alban,” meddai Alex Salmond yn y neges. “Nhw yw ymrwymiad canolog fy mywyd.
“Ond heddiw, dw i wedi sgrifennu at Ysgrifennydd Cenedlaethol y blaid yn ildio fy aelodaeth.
“Wnes i ddim dod i wleidyddiaeth i’w gwneud hi’n hawdd i’r gwrthbleidiau ymosod ar yr SNP… yn benna’ oll dw i’n ymwybodol, petai’r blaid yn teimlo bod rhaid iddyn nhw fy atal tros dro, y byddai hynny’n achosi rhwyg mewnol sylweddol.”
Y cefndir
Mae Alex Salmond wedi bod yn rhan o’r SNP am 45 mlynedd, gan fod yn arweinydd am 20 mlynedd ac yn Brif Weinidog am saith.
Mae’n gwadu’r ddau gyhuddiad yn llwyr ac yn ceisio dwyn achos llys yn erbyn Llywodraeth yr Alban oherwydd y broses o ymchwilio iddyn nhw.
Mae’n debyg fod y cyhuddiadau wedi cael eu gwneud ym mis Ionawr a’u bod yn ymwneud â 2013 pan oedd yn swydd y Prif Weinidog.
Fe gadarnhaodd Heddlu’r Alban ddydd Gwener diwetha’ eu bod wedi derbyn cwynion ond mae Alex Salmond yn eu gwadu’n llwyr.
Fe sgrifennodd at brif was sifil yr Alban yn holi sut y daeth yr wybodaeth yn gyhoeddus.
Y gwrthbleidiau’n beirniadu
Yn y cyfamser, mae’r gwrthbleidiau yn yr Alban wedi condemnio’i ymdrech i godi arian i ymladd yr achos.
Yn ôl y Ceidwadwyr mae’n “anghredadwy fod cyn-Brif Weinidog enwoca’r Alban yn apelio at gefnogwyr yr SNP am arian i gymryd camre cyfreithiol yn erbyn y llywodraeth yr oedd yn arfer ei redeg”.
Yn ôl yr ASA Llafur, Rhoda Grant, roedd Alex Salmond yn “tynnu’r Alban i’r gwter”.