Cyfaddawd Chequers neu ddim cytundeb yw’r unig ddau ddewis sydd ar y bwrdd ar gyfer Brexit yn ôl y dyn sydd i bob pwrpas yn ddirprwy Brif Weinidog Prydain.

Fe ddywedodd David Lidington wrth gynhadledd o bobol fusnes yn Ffrainc fod amser yn prinhau ac nad oedd dewisiadau eraill posib yn ddigon uchelgeisiol.

Fe ddywedodd fod angen i’r Undeb Ewropeaidd fynd ati i drafod y cynnig sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth Prydain ar ôl eu cyfarfod yn Chequers.

“Gyda saith mis yn union gan ddiwedd proses Erthygl 50 [i adael yr Undeb] a llai na dau fis tan Gyngor Ewrop ym mis Hydref, r’yn ni’n wynebu’r dewis rhwng yr argymhellion pragmataidd yr ’yn ni’n eu trafod nawr gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, neu ddim bargen,” meddai.

Yn ogystal â bod yn neges i’r Undeb Ewropeaidd, mae’r geiriau’n debyg o gael eu gweld yn neges i’r Brexitwyr caled o fewn y Blaid Geidwadol hefyd.