Mae perfformiad busnesau a gwasanaethau proffesiynol ar ei waethaf ers dwy flynedd, a hynny oherwydd cynnydd mewn costau ac ansicrwydd ynghylch Brexit.

Dyna’r hyn y mae arolwg newydd gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), sy’n canolbwyntio ar y sector gwasanaethau, yn ei ddangos.

Mae’n nodi bod optimistiaeth ymhlith cwmnïau cyfreithiol, marchnata a chyfrifwyr wedi gweld cwymp sylweddol yn ystod y tri mis diwetha’ – y cwymp mwya’ ers mis Tachwedd 2016.

Mae’r cwmnïau hyn hefyd wedi gweld maint eu gwaith yn lleihau, ac mae disgwyl i’r duedd hon barhau yn y tri mis tan Dachwedd.

Ychydig o obaith

Yn gyffredinol, mae’r lefel o fusnes ar draws y sector gwasanaethau – sy’n gyfrifol am dri chwarter o dyfiant economaidd y Deyrnas Unedig – wedi gweld cynnydd araf yn ystod y tri mis diwetha’.

Mae hyn oherwydd bod cwmnïau sy’n dibynnu ar gwsmeriaid , fel gwestyau, bariau a bwytai, wedi cael haf da.

Ond mae lefel yr elw ar draws y sector cyfan wedi bod o dan bwysau wrth i gynnydd mewn costau effeithio ar gwmnïau.

Mae disgwyl i gostau gynyddu yn ystod y tri mis nesa’ hefyd.

Angen cytundeb Brexit

Yn sgil cyhoeddi’r arolwg, mae prif economegydd CBI yn galw ar Lywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd i sicrhau bod cytundeb ar Brexit yn cael ei gwblhau.

Mae’n hanfodol “rhoi pin ar bapur”, meddai Rain Newton-Smith, a dod i gytundeb ynghylch perthynas newydd rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd a fydd yn rhoi “bywydau pobol o flaen gwleidyddiaeth.”