Mae traean o bobol ifanc yn pryderu y byddan nhw’n dal i fod mewn dyled ar ôl cyrraedd 40 oed, yn ôl astudiaeth newydd.
Yn ôl ymchwil gan Ymddiriedolaeth y Menywod Ifanc, mae un o bob pump mewn dyled trwy’r amser, ac mae 36% yn pryderu y byddan nhw mewn dyled am gyfnod hir.
Mae menywod ifanc yn fwy tebygol o fod mewn sefyllfa ariannol galed, meddai’r corff, ac mae cyfrifon 40% ohonyn nhw bron a bod yn wag erbyn diwedd y mis – 29% yw’r ffigwr ymhlith dynion.
Hefyd mae chwarter o bobol ifanc yn dweud bod eu sefyllfa ariannol wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf, a’n gorfod benthyg arian wrth eu rhieni.
“Gobaith”
“Mae menywod ifanc yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith, a’n fwy tebygol o ennill llai,” meddai Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth y Menywod Ifanc, Dr Carole Easton.
“Mae hynny’n gwneud hi’n anoddach iddyn nhw ymdopi. Does dim rhyfedd, felly, eu bod yn fwy tebygol o fod mewn dyled, a bod cyn lleied o obaith ganddyn nhw.
“Gofynnwn fod y Llywodraeth yn rhoi’r sgiliau iawn iddyn nhw, y cymorth i ddod o hyd i swyddi, a galw’n arnyn nhw i sicrhau bod swyddi da a hyblyg ar gael.”
Cafodd dros 4,000 o bobol eu holi gan y corff.