Mae cyrff dau bysgotwr wedi cael eu darganfod yn Great Yarmouth wrth i Wylwyr y Glannau chwilio amdanyn nhw.

Aeth pump o bobol o dramor ar goll ddydd Sadwrn ar ôl i’w cwch suddo 25 milltir oddi ar arfordir Great Yarmouth yn nwyrain Lloegr.

Cafodd tri physgotwr eu hachub wrth i long eu gweld mewn trafferthion.

Ond cafodd hofrennydd hyd i gyrff y ddau arall, a chafodd eu cyrff eu cludo i faes awyr.

Dydy’r cyrff ddim wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, ond mae’r heddlu’n ceisio cysylltu â’u teuluoedd.