Mae disgwyl i ddynes o Lundain glywed yn fuan a fydd hi’n cael ei rhyddhau o’r carchar am gyfnod mwy sylweddol yn Iran.

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei rhyddhau am dridiau ddydd Iau, ac mae hi’n aros gyda’i theulu ar gyrion dinas Tehran.

Mae hi wedi bod yn y carchar ers dwy flynedd a mwy, a gobaith ei theulu yw y gall hi fod yn rhydd am ychydig wythnosau. Mae ei chyfreithiwr yn hyderus y bydd hynny’n digwydd.

Ond ar hyn o bryd, bydd yn rhaid iddi ddychwelyd i’r ddalfa’n ddiweddarach ddydd Sul.

Cefndir

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe o Hampstead yng ngogledd Llundain ei dedfrydu i bum mlynedd yn y carchar ar ôl cael ei chyhuddo o ysbïo ar lywodraeth y wlad.

Mae hi’n gwadu’r cyhuddiad, gan ddweud ei bod hi ar ei gwyliau yn y wlad er mwyn i’w merch fach weld ei theulu.

Mae hi’n gweithio i Sefydliad Thomson Reuters, a chafodd ei harestio ym maes awyr Imam Khomeini ym mis Ebrill 2016.

Mae Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Jeremy Hunt wedi galw ar yr awdurdodau i’w rhyddhau er mwyn iddi ddychwelyd at ei theulu yn Lloegr.