Mae dynes o Loegr “yn hapus dros ben” ar ôl cael ei rhyddhau dros dro o garchar yn Iran, yn ôl ei gŵr.

Hyd yma mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi treulio 873 o ddyddiau dan glo, ar ôl i lys ei barnu’n euog o gynllwynio yn erbyn Tehran.

Ond mae’r wraig wedi gwadu eu heuogrwydd ers y cychwyn, gan ddadlau eu bod wedi ymweld ag Iran ar wyliau er mwyn cyflwyno’i merch i’w theulu.

Ar fore ddydd Iau (Awst 23) cafodd y ddynes 39 blwydd oed ei rhyddhau o garchar Evin yn Tehran, a bellach mae hi gyda’i theulu yn Damavand.

Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi’i haduno â’i merch pedair blwydd oed, ac mae disgwyl iddi brofi tri diwrnod o ryddid cyn dychwelyd i’r carchar.

“Mor hapus”

Mae gŵr y ddynes, Richard Ratcliffe, wedi croesawu’r “cam da” gan ddweud: “Roedd heddiw yn sioc yn dilyn yr holl siomedigaeth.

“Mae ein gobeithion wedi’u chwalu yn y gorffennol, felly mae wedi dod yn haws i ni ddisgwyl siom. Ond y tro yma, mae pethau’n wahanol.

“Mae hi y tu allan i furiau’r carchar ac rydym ni gyd mor hapus.”

Bydd cyfreithiwr Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn anfon cais i ymestyn ei chyfnod y tu allan i’r carchar, ac mae’n bosib y gallai treulio dros fis yn rhydd.