Mae dyfeisiau clyfar i’r cartref – seinyddion clyfar ac ati – yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn y Deyrnas Unedig, yn ôl ymchwil newydd.
Mae bron i chwarter (23%) o bobol gwledydd Prydain yn berchen o leiaf un o’r teclynnau yma yn eu cartref, ac mae 8% yn berchen dau neu fwy.
Amazon Echo a Google Home yw’r enghreifftiau amlycaf o’r dyfeisiau yma, ac mae modd rheoli sawl teclyn arall yn y tŷ trwyddyn nhw.
Mae’r dyfeisiau yn ‘gwrando’ ar breswylwyr, ac yn medru ymateb i’w ceisiadau gan eu bod yn meddu ar ‘ddeallusrwydd artiffisial’.
Chwyldro?
YouGov sy’n gyfrifol am yr ymchwil, ac mae’n debyg bod 56% o bobol sydd ddim yn berchen ar ‘ddyfeisiau clyfar’ yn credu nad oes eu hangen.
“Mae llawer o bobol yn amheus o’r dyfeisiau yma, neu’n credu does dim pwrpas iddyn nhw,” meddai Cyfarwyddwr Ymchwil Technoleg YouGov.
“I ddechrau chwyldro ‘cartrefi clyfar’ rhaid perswadio cwsmeriaid bod y dechnoleg yn dda a’i fod yn medru eu helpu.”
Cafodd 3,920 eu holi ar lein gan YouGov.