Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad bydwraig o Swydd Stafford wedi arestio dyn 32 oed ar amheuaeth o lofruddio.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff wrth chwilio am Samantha Eastwood, sydd ar goll ers dydd Gwener, Gorffennaf 27.

Cafodd y dyn sydd wedi’i arestio ei ryddhau ar fechnïaeth cyn cael ei arestio unwaith eto ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i’r corff yn ardal Caverswall ddydd Sadwrn.

Mae dau ddyn arall, sy’n 28 a 60 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r heddlu’n cynnig cymorth i deulu Samantha Eastwood.

Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal maes o law.