Y Ddinas yn Llundain - cwestiynau newydd
Mae ymchwiliad wedi dechrau yn Llundain i gefndir achos honedig o dwyll sydd wedi costio £1.3 biliwn i gwmni ariannol UBS.

Ddoe fe gafodd Kweku Adoboli, 31 oed, ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen llys ar un cyhuddiad o dwyll a dau o gadw cyfrifon ffug.

Roedd yn gweithio i gwmni UBS o’r Swistir yn y Ddinas yn Llundain ac fe fydd awdurdodau ariannol y ddwy wlad yn cydweithio ar yr ymchwiliad. Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol – yr FSA – fydd yn ymchwilio ar yr ochr Brydeinig.

Mae’r cyhuddiadau honedig yn mynd yn ôl dair blynedd ac mae’r ddau gorff yn addo “ymchwiliad cynhwysfawr ac annibynnol”.

Y disgwyl yn y Swistir yw y bydd UBS yn gorfod diswyddo rhai o’u 3,500 o weithwyr o ganlyniad i’r colledion.

Fe fydd yr achos yn sicr o godi cwestiynau eto am y ffordd y mae cwmnïau ariannol yn cael eu rheoli.